Gwirfoddoli: Hostel Mallki, W9-11

Dros y dair wythnos diwethaf, ‘de ni wedi bod yn gwirfoddoli mewn hostel yn Cuenca – dinas colonial mewn dyffryn yng nghanol y mynyddoedd yn nhalaith Azuay yn ne Ecuador. Sefydlwyd y Cuenca fodern pan goncrwyd Ecuador gan y Sbaenwyr rw 500 mlynedd yn nol ish ond mi oedd gan yr Incas ddinas pwysig iawn yma cyn hynny ond llosgwyd y cwbwl yn ulw jyst cyn i’r Sbaenwyr gyrraedd. Enw’r hostel ydi Hostel Mallki – enw ar goeden ffrwythau yn yr iaith Quechua sef prif iaith y boi sy’n rhedeg yr hostel. Mai’n hostel bach, cyfforddus iawn wedi leoli canllath o’r hen ddinas, hanner canllath o’r siop sy’n gwerthu sleis go hael o bitsa am 75 cent, a reit drws nesa i’r Russian Bar sy’n cynig shot o vodka a passionfruit juice i unryw un o Hostel Mallki (rhan o’r diet dyddiol..!). Nod y dair wythnos o wirfoddoli oedd er mwyn i ni arafu ‘chydig ar y teithio, dysgu ‘chydig o Sbaeneg a chael cyfle i fynd o dan groen dinas hollol wahanol. Nid yn unig yden ni wedi cael cyfle i neud hynny, ond ‘de ni wedi cael profiadau hollol wahanol nad oeddem yn disgwyl y basa ni’n ei gael – ‘de ni wir wedi dod yn rhan o deulu yma yn Hostel Mallki.

‘De ni wedi dod yn ffrindiau agos efo’r perchnogion, Jude ac Andrés, a’r gwirfoddolwyr eraill drwy goginio a bwyta gwledd dyddiol gyda pawb o’r teulu a drwy jammio fin nos i swn gitar a drums i ganeuon iasol traddodiadol yr Andes. ‘De ni wedi gwneud ffrindie efo Ecuadorians lleol o’r enw Carlos a Romeo sy’n ffrindie efo’r perchnogion ac wedi cal y cyfle i fynd i lansiad llyfr barddoniaeth drwy’r Sbaeneg (do’ ni’m yn dalld gwir ystyr y geirie ond mi oedd o’n brofiad diddorol run modd) ac i gig cerddoriaeth leol efo nw. ‘De ni wedi cyfarfod llu o deithwyr eraill o bob cwr o’r byd, wedi cael ein holi’n dwll am Brexit gan y Germans, wedi dathlu cwpan y byd efo Ffrancwyr, ac ma’n rhestr o ffrindiau sy’n byw yn Llunden ac Awstralia wedi dwblu. Ok, do, dwi wedi gorfod golchi ambell i doilet ac wedi gorfod gwagio ambell i fin ty bach (‘de chi’m yn cal fflushio papur ty bach yn Ne America, ewww) ond perks y job ydi’r ffaith bo fi ‘di maestroli’r sgil o wneud crempogau ar gyfer brecwest i’r gwesteion – haeddianol o Michelin Star os ‘de chi’n gofyn i mi ac ‘ma nhw wedi derbyn ambell i gompliment gan rw cocky London lads oedd jyst isio second helping o’r saws anhygoel Dulce de Leche (bloody cheeks). ‘De ni wedi hikio i uchder o 4,000m uwch lefel y môr ym Mharc Cenedlaethol Cajas, wedi bod i weld hen adfeilion dinas yr Incas, ac wedi gweld yr arrowheads mwya lliwgar erioed wedi carfio allan o gerrig volcanic dros 9,000BC yn nol. ‘De ni wedi rhannu botel o win a phicnic efo’r gwirfoddolwyr eraill tra’n gwylio’r haul yn machlyd o ben y bryn uwchben y ddinas yn Turi, a ‘de ni ‘di g’neud ein siar o haglo efo merched y farchnad wrth brynnu jympers gwlan llama (rêl gringos, ond ‘ma nhw’n hollol hanfodol achos mai’n fflipin’ oer yma yn y nos).

Ond y brofiad gorau heb os oedd y broses o ddod yn ffrindiau efo cwpwl o Buenos Aires o’r enw Lucas ac Andrea. Pan gyrhaesom yma gynta, prin iawn efo Sbaeneg Joe a fine a prinach fyth oedd Saesneg Lucas ac Andrea, ond dros y dair wythnos diwetha’ ‘de ni wedi helpu’n gilydd – y tro bwynt oedd pan aeth y pedwar ohonna ni am 2-4-1 cocktails ac ar ol hynny mi oedd y Sbaeneg yn llifo fel yr andros! Bob bore, dwi ‘di bod yn blastio Duolingo a fideo anhygoel ar YouTube o’r enw Language Transfer – fideo sy’n cymharu Saesneg a Sbaeneg a’r tebygrywdd yn yr ieuthoedd i’r Lladin. Chef ydi Lucas ac mae o wedi dysgu ni sut i goginio pizza o scratch, bara fresh (heb siwgr am y tro cynta’ ers 2 fis a hanner!), sut i goginio empanadas fresh a sut i baratoi ac yfed matté – defod dyddiol i’r pedwar ohonnom erbyn rwan am 4 o’r gloch bob pnawn.

Dwi’n ‘sgwennu hwn ar y Dydd Gwener ola yn Cuenca. Ma’i fore go gymylog yma ac mae’r haul yn popio allan bob hyn a hyn. Cafodd bawb noson reit dda yn y Russian Bar neithiwr ac felly mae’r atmosphere yn araf ac ymlaciol. Dwi’n eistedd ar y patio o dan ymbarela fawr liwgar efo hogyn o Lunden a hogyn o Argentina, y ddau yn jamio efo’i gitars i alawon Bob Dylan (typical backpackers!). Dwi wir wedi ymlacio yma ac wedi teimlo fel rhan o deulu bach. ‘De ni’n barod rwan i godi’n pac eto a tro ‘ma, ‘de ni’n dilyn y ffordd i Periw.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s