Y Ddinas yn y Mynyddoedd: Huaraz

Ar ol siwrne 9 awr mewn bws o ddinas Trujillo ar arfordir gorllewinol Peru, gan ddringo a dringo a throelli a throelli rownd hairpin bends di-diwedd, roedd gweld copaon mynyddoedd y Cordillera Blanca yn aur llachar gan adlewyrchiad yr haul wrth iddo fachlyd yn olygfa i’w thrysori, ac o’r diwedd yng ngwaelod y dyffryn roedd golau dinas Huaraz.

O’r eiliad dyma ni’n camu allan o’r orsaf bws, a hithau wedi tywyllu erbyn hyn, cawsom ein taro gan bla o yrwyr tacsi yn trio’n tynnu ni i bob cyfeiriad – sioc uffernol i’r system a’r ol wythnos yng nghanol llonyddwch traethau euraidd Mancora. Mi oedd strydoedd Huaraz yn llawn hwrli bwrli pobl yn gwerthu nwyddau ar hyd a lled y palmentydd a gyrrwyr tacsi a tuk-tuks yn canu eu cyrn fel yr andros wrth drio gwthio’i ffordd drwy’r dorf. Un bloc i ffwrdd yn unig oedd ein hostel ni ac felly dyma ni’n dechrau cerdded drwy’r dorf gan afael yn dynn yn ein bagiau a gan drio ein gorau glas i beidio sefyll mewn baw ci, sbwriel o ryw fath neu sefyll ar ben un o’r hen wragedd oedd yn eistedd ar ochr y ffyrdd! Roedd pob math o bethau yn cael eu gwerthu ar hyd y stryd gan gynwys ffrwythau a llysiau wedi’i gosod ar flancedi a merched yn barbecuio cig a gwerthu bwyd stryd. Ond bu bron i mi gyfogi pan welais nid yn unig res o gywion wedi pluo yn hongian tu allan i siop fwtchar, ond wrth eu hochr, roedd dau ben buwch anferth gyda’r blew du a’r cyrn gwynion yn dal arnynt a hogle cig oer stêl yn gryf yn yr aer. Iw.

diwrnod wedyn, dyma ni’n mynd a’n brecwest, sef bara, jam a choffi, i do yr hostel i’w fwyta – am olygfa! O’n cwmpas oedd y copaon gwynion, awyr glas, glas di-gwmwl a thoyon terrecotta dinas Huaraz o’n gwmpas. Ar ol bore o gerdded o amgylch y ddinas, rhaid i mi gyfaddau pa mor anghywir oeddwn i wedi barnu Huaraz neithiwr ac er bod y ddinas yr un mor lliwgar, swnllyd, byrlymus a hollol chaotic ac oedd hi neithiwr, am ryw reswm, ar ol noson o gwsg mi oedd hi’n hollol hudolus yng ngholau dydd. Dinas sy’n fwrlwm o gymeriad ac yn rêl dinas De America! Nid dinas bocs-siocled, colonial ydi Huaraz ond dinas go iawn gyda hanes dwfn. Wrth gerdded y strydoedd a chlywed chwerthin a gweiddi, bargeinio a chanu yn dod allan o bob siop neu stondin, anodd ydi credu be’ ddigwyddodd yn yr 1970’au pan ddinistrwyd y ddinas gyfan gan ddaeargryn echrydus a lladdwyd 50% o boblogaeth y ddinas a llorio 95% o adeiladau’r ddinas. Heddiw, ma’ hi’n llawn lliw, llawn bwrlwm ac yn ddinas fywiog down-to-earth iawn.

Dwi’n ‘sgwennu hwn ar ddiwrnod o recoverio. Aethom ar ein hike cynta’ ddoe gan gerdded o uchder o 3,000m uwch lefel y môr yn Huaraz i 3,700m at Laguna Willcacocha. Ar ol dal collectivo am 1 soles yr un (25c) a theithio am rw 20 munud i’r de o Huaraz, dyma ni’n cyrraedd y man dechrau a dilyn llwybr cul, caregog yn syth i fyny’r mynydd gan ymlwybro heibio cartrefi a ffermydd, pobl yn casgl gwenith o’r caeau, merched llwythog mewn dillad traddodiadol ar eu ffordd i’r farchnad, a hen ddynion heb ddannedd yn gorwedd o dan goed yn trio gwerthu dail coco i ni. Er bod awr a hanner o gerdded tuag at y llyn yn swnio’n hawdd fel baw, oherwydd yr uchder, no joke, mi oedd o’n sialens a hanner i anadlu! Ok, ella na nath eistedd ar draeth am wythnos gyfan yn gwneud dim byd ond yfed rum and coke helpu, ond ‘rargol mi oedd o’n job! Mi oedd yr olygfa o’r top yn anhygoel – cadwyn o gopaon miniog gwynion y Cordillera Blanca fel cewri o’n blaenau.

Nod y daith heddiw oedd er mwyn acclimatisio cyn gwneud hikes eraill dros yr wythnos nesaf, so watch this space.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s